24.10.08

Carys JONES a Steff JONES

Rydyn ni nawr yn Shawnigan Lake. Rydyn ni wedi mwynhau'r diwrnodau diwethaf yma yn fawr iawn. Mae'n edrych yn union fel Hogwarts!!!
Pan gyrhaeddon ni, roedd rhaid i ni berfformio yn y dramau a cor o flaen 500 o bobl! Roedd pawb yn nerfus iawn ond aeth popeth yn ffab ac fe gafon ni croeso cynnes iawn oddi wrth disgyblion ac athrawon yr ysgol. Er ei fod yn ysgol breifat, mae'r pobl yma yn groesawgar iawn, ac roedden ni i gyd wedi cael syndod i weld gymaint o athrawon yn siarad Cymraeg! Yna fe chwaraeodd y merched eu gem hoci. Fe chwaraeon nhw'n dda i ganu'r bois er eu bod nhw wedi colli.

Bore ma (Dydd Iau) fe aethom ni i'r capel, a chanu emynau Cymraeg! (Calon Lan a Bread of Heaven). Yna fe aethom ni i "Whale Watching" ac er ein bod ni heb weld unrhyw morfilod, fe gafon ni llawer o hwyl ar y cwch! Ar ol cyrraedd yn ol, roedd y bois wedi chwarae eu gemau rygbi. Roedd y ddau dim wedi chwarae'n wych, ac roedd yr athrawon yn falch iawn.

Bore fory, fe fyddwn ni'n gadael am Seattle!


Hwyl!

2 comments:

Glenda Jones said...

Helo chi'r Jonesis! Bydden ni wedi bod wrth fy modd yn gwrando arnoch chi ac yn gwylio'r holl gyffro. A da iawn fechgyn am gefnogi'r merched! Popeth yn swnio'n wych. Siwrne saff i Seattle.

Jones arall x

*elin.j.j* said...

Joneses on Tour!! xx