Dyma syniad gwych! Mae'n gyfle i mi gadw golwg ar hynt a helynt pawb, gan gynnwys yr athrawon! Cofiwch eich bod yn lladmeryddion yr ysgol.
Pob hwyl i chi i gyd, mwynhewch a dewch adre'n ddiogel.
Dylan Jones
28.9.08
26.9.08
Sut i flogio
Byddwn ni'n cael cyfarfod cyn hir er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn cael y cyfle i flogio a chadw mewn cysylltiad gyda'u teuluoedd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth gyda'r rhwyfo.
25.9.08
Croeso i'r Blog!
Croeso i chi i gyd i'r blog hwn sydd ar gyfer taith Ysgol Gyfun Bro Morgannwg i Ganada. Mawr yw'r edrych ymlaen at y daith a bydd y blog yn rhoi cyfle i'r disgyblion gadw mewn cysylltiad gyda Chymru drwy ysgrifennu pytiau am eu hanesion diweddaraf. Bydd lluniau'n cael eu hychwanegu i bawb gael rhannu profiadau'r criw yng Nghanada. Bydd cyfle hefyd i ffrindiau a theuluoedd yng Nghymru aros mewn cysylltiad drwy wasgu "Comment" ar ddiwedd unrhyw neges ac ychwanegu sylw neu neges. Mae disgyblion blwyddyn 9 taith gyfnewid Grünstadt eisoes wedi bod yn blogio a bu'r fenter yn llwyddiant mawr.
Welcome to you all to this blog which has been set up for Ysgol Gyfun Bro Morgannwg's visit to Canada. Everyone is really looking forward to the journey and this blog will offer pupils the opportunity to stay in touch with Wales by posting their latest news. Photos will be uploaded so that everyone can share the Canada experience. Friends and family at home will be able to stay in touch by clicking on "Comment" at the end of any message and add their thoughts. The year 9 Grünstadt exchange pupils have already blogged and the project was a great success.

Subscribe to:
Posts (Atom)