29.10.08

Rydym ar fin mynd i'r gwely ar ein noson olaf y daith. Roedd e'n penblwydd Eleri heddiw ! Cawsom cinio diwedd y daith ar gwch gyda pawb yn bwyta pizza's a Mr Beynon yn rhoi gwborau'r daith. Mi oedd e'n ddoniol clywed atgofion y daith. Rydym newydd fod i wylio gem hoci ia- Vancouver Canucks yn erbyn Boston ac fe gollodd Vancouver. Roedd y profiad ar y cyfan yn wych a gem cyflym iawn.

Bant i'r gwely nawr cyn deffro bore fori i fynd i Grouse Mountain ac yna cymrud yr awyren am 7 i fynd gartref!

Nos Da
Megan x

28.10.08

Hello!!
Dyma diwrnod olaf ni yn Earl Marriot. Rydym wedi cael amser gwych yma ac mae'r pobl yma yn hyfryd! Aethom ni i barti neithiwr ac roedd y ty YN ENFAWR (roedd home cinema ynddo ac roedd putting green yn ei ardd!) Roedd o fel ty o CRIBS! Buon ni'n sglefrio ia heddiw a chafodd pawb hwyl! Ennillodd y ddau dim rygbi eu gemau ac bu'r merched yn cael gem cyfartal ( 0-0 )yn erbyn Clayton High a chafodd Lili Davies chwaraewraig y gem :)
Yfory rydym yn dychwelyd i Vancouver er mwyn gwneud mwy o siopa! Yna rydym yn mynd ar daith o amglych Stanley Park ac wedyn ar ol hynny rydym yn mynd i weld gem hoci ia yn y nos felly mae pawb yn edrych ymlaen i hynny!
Gobeithio mae pawb yn iawn gatref :)
Bethan a Sara
xxx

27.10.08

diolch. oddi wrth Dafydd Davies

Hey Dafydd sy ma rwyn gatre nawr 8 ac hanner awr ar y awyren , NIGHTMARE haha. dwi eisiau dweud diolch i pawb odd yn helpu fi mas ar y trip ac diolch yn fawr iawn am rhoi lan efo fi. Rwyn gwbod ei bod wedi bod yn galed nid dim ond am fi ond i bawb sydd dal yn ganada. mae PAWB wedi bod mor suportif iddau.

Diolch yn fawr iawn i Mr beynon am drefnur trip ac hefyd am drefni ffleit nol iddau rwyn gwbod faint o hasl wnaeth hwna wneud ac rwyn gwerthfawrogi pobeth yr ydych wedi ei wneud amdanai i ac am pob um arall
hefyd rwyf eisiau rhoi diolch fawr i rhai pobl yn arbenig ond byddaf yn wneud hwna pan byddech chi gyd yn dod nol

DIOLCH YN FAWR IAWN iddych chi gyd a mwynhau popeth arall sydd o fleinai chi ar y trip :)

oddi wrth Dafydd
xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx

Alex a Eleri Haf

We left Seattle this morning after great confusion about the time changes. Finally left and went shopping again. Not complaining. I think Lel and me spent a little too much but you're only in Seattle once. :) We reached Earl Marriott after finding out Eleri and I were meant to be all alone for the next two nights with BOYS. For some reason Mr Beynon desided this was a bad idea. Haha. Lel and me are together in a young man house, he's extremely nice and at the tender age of 14. Good news, however he is 15 tomorrow. We went to his cousins house tonight and played some snooker we were gash! Had a really good night and now we are off to bed. We miss our dorms in Hogwarts, they were amazing and we miss all the girls there! PLaying another game of Hockey tomorrow and hopefully come away with a win.our last concert is tomorrow night and we hope it is as well appreciated as the last. Miss you all.
Ali and Lel

Gadawon ni Seattle bore 'ma ar ol yr holl pemblethau'r amser yn y gwesty. Yna, wedi gadael aethon siop..ETO! Efallai cafodd gormod o arian ei wario...ond ry' ni ond yn Seattle unwaith(yn cytun mam?!) yn y diwedd cyraeddom yn Earl Marriott, ar ol darganfod ein bod i fod mewn ty ar ein hunain gyda bachgen... penderfynnodd Mr B ei fod yn syniad drwg!!! hahahaha ac rydym nawr gyda'n gilydd yn ty Stein sy'n troi'n 15 yfori. chwaraeom pool ac mi roeddwn yn gash. ond cawsom noson hwylus iawn on yn colli hogwarts. yfori yw'n gemau a cyngherddau olaf felly rydym yn gobeithio ennill a llwyddo i canu a actio'n ffantastig. gweld eisiau chi i gyd.
Ali and Lel.

25.10.08

Efan a Jacob

Popeth yn wych yma yn Seattle. Cyngerdd da, ychydig o gamgymeriadau ond ar y cyfan roedd yn dda. Wedi bod i gael te yn Subway a diod yn Starbucks! Dyna yw popeth yn Canada a America- Starbucks a Subways. Gobeithio bod Granny yn iawn a'r cwn. Mr. Evans yn hapus bod Scarlets wedi ennill. Space Needle fory a Grouse Mountain- i weld y Grizelys. Cefn yn dal i brifo ond ar y cyfan yn ok, heb bod i weld y doctor fel oedd yn planned er es i weld y Nurse yn Shawnigan. DIM MORFILOD YN WHALE WATCHING ond wedi gweld sea lions a eryrod. Wedi defnyddio 6 awr o dapiau ac dal heb orffen :) Everything ok Gran havent spent a lot of money yet, goin shopping tomorrow.

Ef wedi sgorio 2 pwynt, conversion or half way line. Moth a Maudie (drama thing yn mynd yn dda- ges i Miss. Williams lan i ddawnsio. Doedd hi ddim yn disgwyl e)
Efan wedi gweld arth yn agos gyda Dafydd yn y goedwig yn Shawnigan. Yn cael amser phenomanal (hoff gair Tom Whitmarsh-knight). Llawer o bethau doniol ar y daith- (quotes y daith) "kinda cute I guess", "MC Usher", "Nigel", "Daddy B" a "10" (esboniad o "10" - os mae rhywun yn neud rhywbeth sili/ stupid neu od mae rhaid i pawb weiddi 10 a rhaid ir person neud 10 gwrthwasgiad! YN CYNNWYS YR ATHRAWON!) "Cwrt Cangarw".

Siarad yn fuan!

Shawnigan Lake & Seattle

Roedd Shawnigan yn lle prydferth iawn! Gyda'r adeiladau enfawr oedd i gyd yn edrych yr un peth. Ond uchafbwynt y dau ddiwrnod yn Shawnigan oedd y ddau gem Rygbi. Roedd y ddau gem yn anodd iawn gyda llawer o galon a chryfder yn cael ei dangos gan y bechgyn.
Roedd gem yr ail dim yn agos iawn iawn! Gyda Shawnigan yn ennill yn y funud olaf gyda chais anghyfreithlon (noc on)
Yn anfodus doedd dim arth ar y Campus ond am Sion 'Yr Arth' Ford.
Ni nawr yn Seattle ar ol diwrnod o deithio mae pawb yn blinedig ond mae rhaid i ni ganu mewn capel ar ochr arall y ddinas nawr.
Felly Hwyl

Jacoc & Paddy.

24.10.08

Carys JONES a Steff JONES

Rydyn ni nawr yn Shawnigan Lake. Rydyn ni wedi mwynhau'r diwrnodau diwethaf yma yn fawr iawn. Mae'n edrych yn union fel Hogwarts!!!
Pan gyrhaeddon ni, roedd rhaid i ni berfformio yn y dramau a cor o flaen 500 o bobl! Roedd pawb yn nerfus iawn ond aeth popeth yn ffab ac fe gafon ni croeso cynnes iawn oddi wrth disgyblion ac athrawon yr ysgol. Er ei fod yn ysgol breifat, mae'r pobl yma yn groesawgar iawn, ac roedden ni i gyd wedi cael syndod i weld gymaint o athrawon yn siarad Cymraeg! Yna fe chwaraeodd y merched eu gem hoci. Fe chwaraeon nhw'n dda i ganu'r bois er eu bod nhw wedi colli.

Bore ma (Dydd Iau) fe aethom ni i'r capel, a chanu emynau Cymraeg! (Calon Lan a Bread of Heaven). Yna fe aethom ni i "Whale Watching" ac er ein bod ni heb weld unrhyw morfilod, fe gafon ni llawer o hwyl ar y cwch! Ar ol cyrraedd yn ol, roedd y bois wedi chwarae eu gemau rygbi. Roedd y ddau dim wedi chwarae'n wych, ac roedd yr athrawon yn falch iawn.

Bore fory, fe fyddwn ni'n gadael am Seattle!


Hwyl!

23.10.08

GP Vanier V YGBM 2nd XV

GP Vanier 0-45 YBGM

15.Mathew Metcalf, 14. Huw Meredith, 13. Niall Crawley, 12. Alex Long, 11. David Marsh, 10. Huw Morgan(PIE), 9. Cai Thomas, 8. Rory Robinson(c), 7. Daf Williams, 6. Oli Clarke, 5. Paddy Crawley, 4. Jacob Phillips, 3. Sion Ford, 2. Dafydd Davies, 1. Rory Coleman.

Ceisiau: Alex Long(2), Sion Ford, Steffan Jones(2), Niall Crawley, Dyfed Cynan

Trosgeisiadau: Alex Long(4), Huw Morgan(1)

Seren Y Gem: Daf Willimas
Anafiadau: Tomos Whitmarsh-Knight

Dechreuodd y gem yn agos gyda llawer o bechgyn cryf iawn i Vanier. Yn araf sylweddolodd y cefnwyr fod ganddyn fwy o sgil na'r gwrthwynebwyr. Dechreuodd y bechgyn lledi'r pel gyda Sion Ford yn myn dros o dan y pyst i dechrau'r sgorio. O hyn ymlaen ni oedd y tim oedd gyda'r mantais. Parhaodd y cefnwyr i ddangos ei sgiliau gyda ceisiau gwych gan Alex, Steff a Dyfed.

Roedd Mr Evans wedi cael ei plesio gyda amddiffyn cryf gan cadw'r sgor i ddim. Taclo a rycio cryf oedd uchafbwynt y tim gyda llawer o sgil i sgorio ceisiau er mwyn ennill yn hawdd.

Er y sgor nid oedd y gem yn un hawdd ac roedd rhaid i'r bechgyn gweithio'n galed am y llwyddiant.

Mae pawb yn edrych ymlaen i gem galed yn erbyn Shawnigan.

Roedd Tom Whitmarsh wedi maeddu Williams yn yr areithiau.

TOM WHITMARSH 1 TOM WILLIAMS 1

Ymlaen i Shawnigan a ni.

Tim 1 XV V GP Vanier -Capten Tom Williams

15.Cory Allen,14.Dyfed Cynan,13,Ben Bryl,12,Lloyd Thomas 11,Aled Williams, 10.Tom Williams(capten y daith) . 9. Efan ellis.8, Seb Vidal 7.Rhodri walker.6,Illtud Daffydd, 5, Hans Kennedy , 4 , Callum Scott, 3,Seth Wilson , 2, jacob Ellis , 1. Owen Jennings(Sion Ford)

Ceisiau-Corry Allen, Dyfed Cynan , Alex Long

Seren y Gem :- Lloyd Thomas

Roedd yr amodau gaeafol yn wael ar ddechrau'r gem ond yn sydun iawn roedd pawb wedi ei addasu yn eithaf gloi. Fe ddechreuodd yr ail dim ar nodyn uchel, ac felly rhoddodd llawer o bwysau arnom. Fe ddechreuom ni'r gem yn wael, wrth i nifer gwneud camgymeriadau esgeulus. Ar ol i ni dod i arfer gyda'r tywydd fe ddechreuodd y tim chwarae'n dda, hefo'r chwaraewr fwyaf dylanwadol sef Lloyd Thomas , a oedd yn torri'r llinnell y gwrthwynebwyr sawl tro ac hefyd amddiffyn fel "Arth Grizzly"

Gobeithio gallwn cymrud hyn mewn in gem nesaf sef Shawnigan .

Pie! Gareth! Huw! a Jacob!

Mae Shawnigan yn le hyfryd. Wedi gweld arth yn y mynyddoedd ddoe ac yn gobeithio gweld mwy yma yn Shawnigan. Wedi gwylio gem hoci'r merched prynhawn yma ar ol cyngherdd o flaen 500 o bobl. Roedd y merched wedi colli ond roedd eu agwedd yn bositif. Edrych ymlaen at y gem galed yfory a'r morfilod. Mae "Lecky House" yn le neis a chlud. Nol cyn bo hir...........

(DDIM YN MYND I GYFIAETHU OHERWYDD---- CYMRAEG YW IAITH Y DAITH)