21.10.08

Huw a Alex

Y bore ma gadawon ni Aldergrove, ein cartref am y tair dydd diwethaf. Dwedodd pawb eu ffarwel i'r teuluoedd aroson nhw gyda tra yn Aldergrove a chychwynon ni ar ein taith i Ynys Vancouver. Aethom ar daith o dan dwy awr ar fferi ac yn cael hwyl wrth weld Alex Briscombe yn ail greu golygfa enwog Titanic gan ganu 'My heart will go on'. Pan ddaethom ni i fewn i dir ysgol Vanier cawsom hwyl wrth weld banner mawr yn ein croesawu ni i'r ysgol ac yn sylwi ar y pyst rygbi wedi eu creu o bren! Gobeithio bydd y tim rygbi yn cael yr un canlyniad ag yn Aldergrove ac fod y tim hoci yn cael canlyniad gwell.

Huw a Alex

No comments: