20.10.08

Efan a Steff

Yn enwedig ar ol parti neithiwr, roedd heddiw yn ddechrau rhy gynnar! gyda llawer o wynebau blinedig, fe adawon ni i gyfeiriad Capilano.

Roedd y profiad o gerdded dros bont pren 230 troedfedd o uchder yn...diddorol. Pan oedd pawb arall yn cerdded y pellter dros afon Capilano yn hapus ac yn tynnu lluniau, roeddwn i (Steff) yn dal yn dynn iawn iawn ar y rhaff yn llawn ofn! Yn y diwedd, roedd yn rhaid i Mr J Evans dal fy mraich yr holl ffordd fel plentyn bach!

Ar ol yr antur yna, siopa oedd yr unig beth ar meddwl pawb wrth i ni gyrraedd Vancouver. Sai'n credu bod Robson St. wedi gweld gymaint o Gymry erioed!

Heno oedd ein cyngerdd llawn cyntaf, ac fe gafodd pawb llawer o hwyl! Roedd Cymdeithas Gymraeg Vancouver yn groesawgar iawn, yn paratoi bwyd i ni cyn perfformio. Fe ganodd y cor yn wych, ac roedd y darnau drama'n dda (ac fe ddefnyddiodd Jacob ei "charm" wrth siarad gyda'r hen fenywod yn y gynulleidfa!)

Dyma fydd ein noson olaf gyda'n teulu cyntaf, ac mi fydd e'n drueni gadael, a ni wedi cael croeso mor dda! Ond mi rydw i ac Efan yn edrych ymlaen i weld yr ysgol a'r teulu nesaf!

Nos Da!

5 comments:

Gwen a Broc said...

Falch iawn bod y gyngerdd wedi mynd yn dda a bod Steff wedi dod i lawr o'r bont yn ddiogel!!
Da gweld bod Jacob yn dilyn ol traed ei Dad!!!
Joiwch

o.n. Girl Band mas o X Factor!!

Glenda Jones said...

Bore da! Braf clywed wrthyt Steff. Ma rhywun arall yn ty ni yn cael yr un profiad gydag uchder! Diolch Mr Evans am yr help! 'Dyro dy law i mi .......'!!!!!!!!!!!!!

*elin.j.j* said...

Cyfarchion o'r ALBAN!
Gret clywed oddi wrthoch. Paid a phoeni Steff - o'n i methu diodde'r bont chwaith!! Braf hefyd gweld eich bod wedi ennill y gem gynta...wedi neud yn well na nethon ni yn barod! GO YGBM!! Pob lwc da'r teulu nesa' a'r geme a'r cyngherdde sydd i ddod. Gobeithio fydd y canlyniade da yn parhau (no pressure!!)
El x x

*elin.j.j* said...

O.N.
DWI MOR GENFIGENNUS!!!

Steffan Griffin said...

Da iawn yn y gem rygbi bois a gobeithio chi'n cael amser da!
btw Blues wedi smasho gloucester ar y weekend gyda bonus point (:
pob lwc gyda'r rygbi!