Yn enwedig ar ol parti neithiwr, roedd heddiw yn ddechrau rhy gynnar! gyda llawer o wynebau blinedig, fe adawon ni i gyfeiriad Capilano.
Roedd y profiad o gerdded dros bont pren 230 troedfedd o uchder yn...diddorol. Pan oedd pawb arall yn cerdded y pellter dros afon Capilano yn hapus ac yn tynnu lluniau, roeddwn i (Steff) yn dal yn dynn iawn iawn ar y rhaff yn llawn ofn! Yn y diwedd, roedd yn rhaid i Mr J Evans dal fy mraich yr holl ffordd fel plentyn bach!
Ar ol yr antur yna, siopa oedd yr unig beth ar meddwl pawb wrth i ni gyrraedd Vancouver. Sai'n credu bod Robson St. wedi gweld gymaint o Gymry erioed!
Heno oedd ein cyngerdd llawn cyntaf, ac fe gafodd pawb llawer o hwyl! Roedd Cymdeithas Gymraeg Vancouver yn groesawgar iawn, yn paratoi bwyd i ni cyn perfformio. Fe ganodd y cor yn wych, ac roedd y darnau drama'n dda (ac fe ddefnyddiodd Jacob ei "charm" wrth siarad gyda'r hen fenywod yn y gynulleidfa!)
Dyma fydd ein noson olaf gyda'n teulu cyntaf, ac mi fydd e'n drueni gadael, a ni wedi cael croeso mor dda! Ond mi rydw i ac Efan yn edrych ymlaen i weld yr ysgol a'r teulu nesaf!
Nos Da!
Falch iawn bod y gyngerdd wedi mynd yn dda a bod Steff wedi dod i lawr o'r bont yn ddiogel!!
ReplyDeleteDa gweld bod Jacob yn dilyn ol traed ei Dad!!!
Joiwch
o.n. Girl Band mas o X Factor!!
Bore da! Braf clywed wrthyt Steff. Ma rhywun arall yn ty ni yn cael yr un profiad gydag uchder! Diolch Mr Evans am yr help! 'Dyro dy law i mi .......'!!!!!!!!!!!!!
ReplyDeleteCyfarchion o'r ALBAN!
ReplyDeleteGret clywed oddi wrthoch. Paid a phoeni Steff - o'n i methu diodde'r bont chwaith!! Braf hefyd gweld eich bod wedi ennill y gem gynta...wedi neud yn well na nethon ni yn barod! GO YGBM!! Pob lwc da'r teulu nesa' a'r geme a'r cyngherdde sydd i ddod. Gobeithio fydd y canlyniade da yn parhau (no pressure!!)
El x x
O.N.
ReplyDeleteDWI MOR GENFIGENNUS!!!
Da iawn yn y gem rygbi bois a gobeithio chi'n cael amser da!
ReplyDeletebtw Blues wedi smasho gloucester ar y weekend gyda bonus point (:
pob lwc gyda'r rygbi!