29.10.08

Rydym ar fin mynd i'r gwely ar ein noson olaf y daith. Roedd e'n penblwydd Eleri heddiw ! Cawsom cinio diwedd y daith ar gwch gyda pawb yn bwyta pizza's a Mr Beynon yn rhoi gwborau'r daith. Mi oedd e'n ddoniol clywed atgofion y daith. Rydym newydd fod i wylio gem hoci ia- Vancouver Canucks yn erbyn Boston ac fe gollodd Vancouver. Roedd y profiad ar y cyfan yn wych a gem cyflym iawn.

Bant i'r gwely nawr cyn deffro bore fori i fynd i Grouse Mountain ac yna cymrud yr awyren am 7 i fynd gartref!

Nos Da
Megan x

28.10.08

Hello!!
Dyma diwrnod olaf ni yn Earl Marriot. Rydym wedi cael amser gwych yma ac mae'r pobl yma yn hyfryd! Aethom ni i barti neithiwr ac roedd y ty YN ENFAWR (roedd home cinema ynddo ac roedd putting green yn ei ardd!) Roedd o fel ty o CRIBS! Buon ni'n sglefrio ia heddiw a chafodd pawb hwyl! Ennillodd y ddau dim rygbi eu gemau ac bu'r merched yn cael gem cyfartal ( 0-0 )yn erbyn Clayton High a chafodd Lili Davies chwaraewraig y gem :)
Yfory rydym yn dychwelyd i Vancouver er mwyn gwneud mwy o siopa! Yna rydym yn mynd ar daith o amglych Stanley Park ac wedyn ar ol hynny rydym yn mynd i weld gem hoci ia yn y nos felly mae pawb yn edrych ymlaen i hynny!
Gobeithio mae pawb yn iawn gatref :)
Bethan a Sara
xxx

27.10.08

diolch. oddi wrth Dafydd Davies

Hey Dafydd sy ma rwyn gatre nawr 8 ac hanner awr ar y awyren , NIGHTMARE haha. dwi eisiau dweud diolch i pawb odd yn helpu fi mas ar y trip ac diolch yn fawr iawn am rhoi lan efo fi. Rwyn gwbod ei bod wedi bod yn galed nid dim ond am fi ond i bawb sydd dal yn ganada. mae PAWB wedi bod mor suportif iddau.

Diolch yn fawr iawn i Mr beynon am drefnur trip ac hefyd am drefni ffleit nol iddau rwyn gwbod faint o hasl wnaeth hwna wneud ac rwyn gwerthfawrogi pobeth yr ydych wedi ei wneud amdanai i ac am pob um arall
hefyd rwyf eisiau rhoi diolch fawr i rhai pobl yn arbenig ond byddaf yn wneud hwna pan byddech chi gyd yn dod nol

DIOLCH YN FAWR IAWN iddych chi gyd a mwynhau popeth arall sydd o fleinai chi ar y trip :)

oddi wrth Dafydd
xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx

Alex a Eleri Haf

We left Seattle this morning after great confusion about the time changes. Finally left and went shopping again. Not complaining. I think Lel and me spent a little too much but you're only in Seattle once. :) We reached Earl Marriott after finding out Eleri and I were meant to be all alone for the next two nights with BOYS. For some reason Mr Beynon desided this was a bad idea. Haha. Lel and me are together in a young man house, he's extremely nice and at the tender age of 14. Good news, however he is 15 tomorrow. We went to his cousins house tonight and played some snooker we were gash! Had a really good night and now we are off to bed. We miss our dorms in Hogwarts, they were amazing and we miss all the girls there! PLaying another game of Hockey tomorrow and hopefully come away with a win.our last concert is tomorrow night and we hope it is as well appreciated as the last. Miss you all.
Ali and Lel

Gadawon ni Seattle bore 'ma ar ol yr holl pemblethau'r amser yn y gwesty. Yna, wedi gadael aethon siop..ETO! Efallai cafodd gormod o arian ei wario...ond ry' ni ond yn Seattle unwaith(yn cytun mam?!) yn y diwedd cyraeddom yn Earl Marriott, ar ol darganfod ein bod i fod mewn ty ar ein hunain gyda bachgen... penderfynnodd Mr B ei fod yn syniad drwg!!! hahahaha ac rydym nawr gyda'n gilydd yn ty Stein sy'n troi'n 15 yfori. chwaraeom pool ac mi roeddwn yn gash. ond cawsom noson hwylus iawn on yn colli hogwarts. yfori yw'n gemau a cyngherddau olaf felly rydym yn gobeithio ennill a llwyddo i canu a actio'n ffantastig. gweld eisiau chi i gyd.
Ali and Lel.

25.10.08

Efan a Jacob

Popeth yn wych yma yn Seattle. Cyngerdd da, ychydig o gamgymeriadau ond ar y cyfan roedd yn dda. Wedi bod i gael te yn Subway a diod yn Starbucks! Dyna yw popeth yn Canada a America- Starbucks a Subways. Gobeithio bod Granny yn iawn a'r cwn. Mr. Evans yn hapus bod Scarlets wedi ennill. Space Needle fory a Grouse Mountain- i weld y Grizelys. Cefn yn dal i brifo ond ar y cyfan yn ok, heb bod i weld y doctor fel oedd yn planned er es i weld y Nurse yn Shawnigan. DIM MORFILOD YN WHALE WATCHING ond wedi gweld sea lions a eryrod. Wedi defnyddio 6 awr o dapiau ac dal heb orffen :) Everything ok Gran havent spent a lot of money yet, goin shopping tomorrow.

Ef wedi sgorio 2 pwynt, conversion or half way line. Moth a Maudie (drama thing yn mynd yn dda- ges i Miss. Williams lan i ddawnsio. Doedd hi ddim yn disgwyl e)
Efan wedi gweld arth yn agos gyda Dafydd yn y goedwig yn Shawnigan. Yn cael amser phenomanal (hoff gair Tom Whitmarsh-knight). Llawer o bethau doniol ar y daith- (quotes y daith) "kinda cute I guess", "MC Usher", "Nigel", "Daddy B" a "10" (esboniad o "10" - os mae rhywun yn neud rhywbeth sili/ stupid neu od mae rhaid i pawb weiddi 10 a rhaid ir person neud 10 gwrthwasgiad! YN CYNNWYS YR ATHRAWON!) "Cwrt Cangarw".

Siarad yn fuan!

Shawnigan Lake & Seattle

Roedd Shawnigan yn lle prydferth iawn! Gyda'r adeiladau enfawr oedd i gyd yn edrych yr un peth. Ond uchafbwynt y dau ddiwrnod yn Shawnigan oedd y ddau gem Rygbi. Roedd y ddau gem yn anodd iawn gyda llawer o galon a chryfder yn cael ei dangos gan y bechgyn.
Roedd gem yr ail dim yn agos iawn iawn! Gyda Shawnigan yn ennill yn y funud olaf gyda chais anghyfreithlon (noc on)
Yn anfodus doedd dim arth ar y Campus ond am Sion 'Yr Arth' Ford.
Ni nawr yn Seattle ar ol diwrnod o deithio mae pawb yn blinedig ond mae rhaid i ni ganu mewn capel ar ochr arall y ddinas nawr.
Felly Hwyl

Jacoc & Paddy.

24.10.08

Carys JONES a Steff JONES

Rydyn ni nawr yn Shawnigan Lake. Rydyn ni wedi mwynhau'r diwrnodau diwethaf yma yn fawr iawn. Mae'n edrych yn union fel Hogwarts!!!
Pan gyrhaeddon ni, roedd rhaid i ni berfformio yn y dramau a cor o flaen 500 o bobl! Roedd pawb yn nerfus iawn ond aeth popeth yn ffab ac fe gafon ni croeso cynnes iawn oddi wrth disgyblion ac athrawon yr ysgol. Er ei fod yn ysgol breifat, mae'r pobl yma yn groesawgar iawn, ac roedden ni i gyd wedi cael syndod i weld gymaint o athrawon yn siarad Cymraeg! Yna fe chwaraeodd y merched eu gem hoci. Fe chwaraeon nhw'n dda i ganu'r bois er eu bod nhw wedi colli.

Bore ma (Dydd Iau) fe aethom ni i'r capel, a chanu emynau Cymraeg! (Calon Lan a Bread of Heaven). Yna fe aethom ni i "Whale Watching" ac er ein bod ni heb weld unrhyw morfilod, fe gafon ni llawer o hwyl ar y cwch! Ar ol cyrraedd yn ol, roedd y bois wedi chwarae eu gemau rygbi. Roedd y ddau dim wedi chwarae'n wych, ac roedd yr athrawon yn falch iawn.

Bore fory, fe fyddwn ni'n gadael am Seattle!


Hwyl!

23.10.08

GP Vanier V YGBM 2nd XV

GP Vanier 0-45 YBGM

15.Mathew Metcalf, 14. Huw Meredith, 13. Niall Crawley, 12. Alex Long, 11. David Marsh, 10. Huw Morgan(PIE), 9. Cai Thomas, 8. Rory Robinson(c), 7. Daf Williams, 6. Oli Clarke, 5. Paddy Crawley, 4. Jacob Phillips, 3. Sion Ford, 2. Dafydd Davies, 1. Rory Coleman.

Ceisiau: Alex Long(2), Sion Ford, Steffan Jones(2), Niall Crawley, Dyfed Cynan

Trosgeisiadau: Alex Long(4), Huw Morgan(1)

Seren Y Gem: Daf Willimas
Anafiadau: Tomos Whitmarsh-Knight

Dechreuodd y gem yn agos gyda llawer o bechgyn cryf iawn i Vanier. Yn araf sylweddolodd y cefnwyr fod ganddyn fwy o sgil na'r gwrthwynebwyr. Dechreuodd y bechgyn lledi'r pel gyda Sion Ford yn myn dros o dan y pyst i dechrau'r sgorio. O hyn ymlaen ni oedd y tim oedd gyda'r mantais. Parhaodd y cefnwyr i ddangos ei sgiliau gyda ceisiau gwych gan Alex, Steff a Dyfed.

Roedd Mr Evans wedi cael ei plesio gyda amddiffyn cryf gan cadw'r sgor i ddim. Taclo a rycio cryf oedd uchafbwynt y tim gyda llawer o sgil i sgorio ceisiau er mwyn ennill yn hawdd.

Er y sgor nid oedd y gem yn un hawdd ac roedd rhaid i'r bechgyn gweithio'n galed am y llwyddiant.

Mae pawb yn edrych ymlaen i gem galed yn erbyn Shawnigan.

Roedd Tom Whitmarsh wedi maeddu Williams yn yr areithiau.

TOM WHITMARSH 1 TOM WILLIAMS 1

Ymlaen i Shawnigan a ni.

Tim 1 XV V GP Vanier -Capten Tom Williams

15.Cory Allen,14.Dyfed Cynan,13,Ben Bryl,12,Lloyd Thomas 11,Aled Williams, 10.Tom Williams(capten y daith) . 9. Efan ellis.8, Seb Vidal 7.Rhodri walker.6,Illtud Daffydd, 5, Hans Kennedy , 4 , Callum Scott, 3,Seth Wilson , 2, jacob Ellis , 1. Owen Jennings(Sion Ford)

Ceisiau-Corry Allen, Dyfed Cynan , Alex Long

Seren y Gem :- Lloyd Thomas

Roedd yr amodau gaeafol yn wael ar ddechrau'r gem ond yn sydun iawn roedd pawb wedi ei addasu yn eithaf gloi. Fe ddechreuodd yr ail dim ar nodyn uchel, ac felly rhoddodd llawer o bwysau arnom. Fe ddechreuom ni'r gem yn wael, wrth i nifer gwneud camgymeriadau esgeulus. Ar ol i ni dod i arfer gyda'r tywydd fe ddechreuodd y tim chwarae'n dda, hefo'r chwaraewr fwyaf dylanwadol sef Lloyd Thomas , a oedd yn torri'r llinnell y gwrthwynebwyr sawl tro ac hefyd amddiffyn fel "Arth Grizzly"

Gobeithio gallwn cymrud hyn mewn in gem nesaf sef Shawnigan .

Pie! Gareth! Huw! a Jacob!

Mae Shawnigan yn le hyfryd. Wedi gweld arth yn y mynyddoedd ddoe ac yn gobeithio gweld mwy yma yn Shawnigan. Wedi gwylio gem hoci'r merched prynhawn yma ar ol cyngherdd o flaen 500 o bobl. Roedd y merched wedi colli ond roedd eu agwedd yn bositif. Edrych ymlaen at y gem galed yfory a'r morfilod. Mae "Lecky House" yn le neis a chlud. Nol cyn bo hir...........

(DDIM YN MYND I GYFIAETHU OHERWYDD---- CYMRAEG YW IAITH Y DAITH)

Mount Washington


Y garfan i gyd ar ben Mount Washington...

Vanier High gan Martha a Sara!! :D

heloooo!
ar y foment rydw i a sara yn nhy ein billet o Vanier High ac rydyn ni 'di cael amser hyfryd. Heddiw buon ni'n teithio i Mount Washington, oedd yn oer iaaaaawn, nid oedd pawb wedi eu paratoi am hyn, ond yn dod a chrys t a hoodie! Gwelodd rhai pobl arth fach, profiad gwych gan nad oedden ni wedi gweld arth lan yn Whistler. Wedyn yn y prynhawn chwaraeodd y bechgyn Vanier High yn rygbi, a'r merched yn hoci. Curodd y ddau dim rygbi Vanier High, llwyddiant gwych arall iddynt! I'r merched, llwyddiant cymhedrol oedd hi wrth i ni fod yn gyfartal o ran y sgor, 1-1, a sgoriodd Sara gol ar ol iddi wacio'r ergyd oddi ar y goali, gwych!! Cafon ni barti pizza wedyn efo'r chwaraewyr a seremoniau gwobrwyo i'r bechgyn ac i'r merched. Canlyniad gwych oedd hi i'r ferched gan taw ar wair chwaraeon ni, oedd yn brofiad...newydd :) geriau miss Williams..i anghofio popeth cafon ni ein dysgu am sgiliau hoci, ac i wacio'r bel lan y cae! Roedd y cae yn dyllau i gyd erbyn iddyn ni orffen! Roedd y cyngerdd eto yn llwyddiant mawr, canodd y cor a'r ensemble lleisiol yng nghyngerdd jazz yn Ysgol Highland, siaws oedd hi i ni gymedithasu a phobl yr ardal ag ati :) stop gwych arall i dref hyfryd arall. Yfory rydyn ni'n symyd ymlaen i Shawnigan Lake ac mae pawb yn gyffrous iawn :) yn enwedig i fynd ar y daith gweld morfilod, a gobeithio gawn ni weld morfil neu ddwy! hwwwwyyl am nawr!! nos da :) Sara a Marth xxxxxxx



Helloooo!
At the moment Sara and I are in our billet house from Vanier High and we're having a lovely time. Today we travelled to Mount Washington and it was VERY cold! Not everyone caem prepared for this sort of weather, wearing a hoodie and a t-shirt! Some people manged to spot a bear in admist the trees. This was a fantastic experience as we had not seen a bear in Whistler! In the afternoon the boys played rugby against Vanier High and the girls played hockey. Both rugby teams won their matches , another excellent result for the boys. The girls managed to draw, 1-1 against Vanier High. Sara scored the goal by whacking the ball into the goal. We then had a pizza party with all the players and we had an award ceremony for the girls and the boys. An excellent result for the girls, as we played on grass for first time and it was an experience...! MIss Williams words..there would be no skill involved, just whack the ball! The field was all holes by the time we had finished! The concert was also a success . The choir and the ensemble sang in Jazz concery in Highland School, it was a chance to socialize with students from the area! Tomorrow we are heading on to Shawnigan Lake School and we are all very excited! especially to go whale watching and we'll hopfully manage to see one or two whales! Godbye for now!! Goodnight,
Sara and Martha xxxxx

Bro Morgannwg V GP Vanier


Bro Morgannwg XV cyntaf 15 V GP Vanier 7
Bro Morgannwg Ail XV 45 V GP Vanier 0

21.10.08

Alex, Katy ac Eleri Haf.

Heddiw cyraeddom yn Vanier High, gan gadael ein gatre'n Aldergrove. Roeddem i gyd yn drist i weud hwyl fawr ac wedi gwneud ffrindiau bythgofiadwy. WARNING i'r rhieni ma nhw i gyd am ddod i aros! Aethom ar y Fferi ac yna i Pentre.... bythgofiadwy ond effallai ddim am y rhesymau cywir (coughcough..Lucy, Martha a Becky!)Wrth cyrraedd Vanier roedd y disgyblion yn awyddus iawn i cwrdd a ni, ac mae'r teulu newydd yn hyfryd, aethom ar "quick tour" o'r dre lle prydferth yn enwedig ei cabin ar lan y mor. Gwelsom ceirw gwyllt, ac am mynd yn y "hot tub" yn hwyrach. Fori mae'r gemau hoci a rygbi, ac hefyd ein 3ydd cyngerdd, rydym yn awyddus iawn gan fod y gyngerdd neithiwr mor llwyddiannus, buom yn cwrdd a pobl o Aberdar a Dyffryn nantlle. byddwn yn bloggio eto'n fuan ar ol y hot tub,cyngherddau a gemau. Hwyl am y tro.
Eleri Haf, Alex a Katy xxx

Today we arrived in Vanier High after leaving our families in Aldergrove. We were all very sad to say goodbye and have made life long friends. WARNING to parents they are all eager to come and visit. We arrived by Ferry and then visited a small village.... unforgetable but possibly not for the right reasons (cough cough..... Lucy, Martha and Becky!) The pupils were very exited to meet us, and our new family are lovely. They took us on a "whirlwind tour" of the area, it's beautiful especially there cottage on the beach. We also saw wild deer, and are going in the hot tub later this evening. Tomorrow are the games, and our 3rd concert, we cannot wait as our last was such a hit with vancouver welsh society, we met people from Aberdare and Dyffryn Nantlle. we'll be blogging again soon after our hot tub, games and concert! Ciao for now.
Eleri Haf, Alex and Katy xxx

Huw a Alex

Y bore ma gadawon ni Aldergrove, ein cartref am y tair dydd diwethaf. Dwedodd pawb eu ffarwel i'r teuluoedd aroson nhw gyda tra yn Aldergrove a chychwynon ni ar ein taith i Ynys Vancouver. Aethom ar daith o dan dwy awr ar fferi ac yn cael hwyl wrth weld Alex Briscombe yn ail greu golygfa enwog Titanic gan ganu 'My heart will go on'. Pan ddaethom ni i fewn i dir ysgol Vanier cawsom hwyl wrth weld banner mawr yn ein croesawu ni i'r ysgol ac yn sylwi ar y pyst rygbi wedi eu creu o bren! Gobeithio bydd y tim rygbi yn cael yr un canlyniad ag yn Aldergrove ac fod y tim hoci yn cael canlyniad gwell.

Huw a Alex

20.10.08

Efan a Steff

Yn enwedig ar ol parti neithiwr, roedd heddiw yn ddechrau rhy gynnar! gyda llawer o wynebau blinedig, fe adawon ni i gyfeiriad Capilano.

Roedd y profiad o gerdded dros bont pren 230 troedfedd o uchder yn...diddorol. Pan oedd pawb arall yn cerdded y pellter dros afon Capilano yn hapus ac yn tynnu lluniau, roeddwn i (Steff) yn dal yn dynn iawn iawn ar y rhaff yn llawn ofn! Yn y diwedd, roedd yn rhaid i Mr J Evans dal fy mraich yr holl ffordd fel plentyn bach!

Ar ol yr antur yna, siopa oedd yr unig beth ar meddwl pawb wrth i ni gyrraedd Vancouver. Sai'n credu bod Robson St. wedi gweld gymaint o Gymry erioed!

Heno oedd ein cyngerdd llawn cyntaf, ac fe gafodd pawb llawer o hwyl! Roedd Cymdeithas Gymraeg Vancouver yn groesawgar iawn, yn paratoi bwyd i ni cyn perfformio. Fe ganodd y cor yn wych, ac roedd y darnau drama'n dda (ac fe ddefnyddiodd Jacob ei "charm" wrth siarad gyda'r hen fenywod yn y gynulleidfa!)

Dyma fydd ein noson olaf gyda'n teulu cyntaf, ac mi fydd e'n drueni gadael, a ni wedi cael croeso mor dda! Ond mi rydw i ac Efan yn edrych ymlaen i weld yr ysgol a'r teulu nesaf!

Nos Da!

19.10.08

Wedi mwynhau darllen yr hanesion ar y blog heno. Swnio fel petaech i gyd yn cael amser gwych! Lluniau yn edrych yn ffantastig hefyd. Gobeithio nad ydych chi yn gweld eisiau YGBM yn ormodol! Hwyl am nawr!

Ali a Han

Hello pawb! Ali a han sydd yma. Heddi aethon ni i Hells Gate. Roedd yn fab. Cyn fynd clywson ni fod yn eithaf diflas a felly doedden ni ddim yn disgwyl llawer ond roedd y golygfeydd yn anhygoel a gawson amser gwych. Cafodd Alex fach o stress ar y ffordd nolgan fod Paddy a Dafydd yn siglo'r 'cable cart'. DDIM YN IMPRESSED! Rydym yn aros mewn ty HUUUUGE! Mae'r teulu yn hyfryd a bydd Miss James yn bles gan fod y teulu yn Almaenwyr a felly rydyn wedi bod yn ymarfer ein Almaeneg. Ha! Heno fe aethon ni i Supermarkt roedd en diddorol. Ar ol te rydyn wedi cael ei gwahoddi i barti bachgen o Aldergrove. Felly nawr ni bant i dechrau paratoi i bartio!!!

Hey Everyone! Ali and Han here. Today we went to Hell's Gate. It was awesome. Before going we heard it was quite boring however when we arrived the views were phenomenal and we had a great time. Alex had a little stress on the way back because Paddy and Dafydd were rocking the cable cart. WAS NOT IMPRESSED. We are staying in a HUGE house. The family are German so Miss James will be happy to know we have been practising our German. The family are lovely. Tonight we went to a traditional Canadian Supermarket. Was very interesting. After dinner tonight we have been invited to one of the boys party's from Aldergrove. So we are now off to get ready to PARTY! ha

Ali and Han x

18/10 Meg & Bethan

Mae Canada yn FFAB!!
Heddiw aethom ni i Hell's Gate, roedd y golygfeydd yn hyfryd. Heno rydym yn mynd i 'Fright Night' gyda'r pobl sy'n lletya ni. Yn ol pob son mae'n mynd i bob yn ofnus iawn a dydyn ni ddim rili eisiau mynd. :/ Mae yna reidiau ac actorion yn mynd i neidio allan arnyn ni. YEY!

Hwyl Fawr Cymru!
Gweld chi'n fuan.

Y Daith Mor Belled

Mae'r daith yn wych. Mae Canada yn wlad prydferth gyda thirlun ardderchog. Heddiw aethon i Hell's Gate, fel Canyon gyda afon byrlymus yn rhedeg drwyddi. Roedd rhaid i Owen Jennings wisgo gwisg twpsyn y diwrnod sef affro a gwisg Macho Man drwy'r nid oes hawl ganddo ei ddisodli tan yfory!! Yfory byddwn yn mynd i Vancouver ac bydd y Cor ac eitemau yn perfformio o flaen Cymdeithas Gymraeg Vancouver.
Bonkour madame Thomas, madame Morgan, kathleen et Huw, ca-va?? Canada est tres tres bien et aujord 'hui nous sommes alles a Hell's Gate, c'est ne pas tres bien :( Je regarde beacoup de hockey ici .

Nos da Cymru.........

18.10.08

Dafydd ac Illtud

helol mae hwn yn gret maer teuli yn ffantastic dydyn ni ddim eisiau gadael. siopa yn gret ac hefyd gem gyntaf yn dda iawn .

Krisite a Bethan :)

Mae'r ddau ohonom wedi blino ar ol dydd hir y ddoe efo'n gem hoci cyntaf ni yn erbyn chiliwack! I ddechrau'r dydd trafeuliom i Aldergrove o Vancouver am 2 awr gyda GORON ein dreifwr bws. Ar y bws cafon ni "sing along" efo just y merched ac wedyn penderfynnom i sgrifennu can ar gyfer Mr B! Cyrhaeddom yr ysgol yn nerfus, ond cafon ni hwyl tran perfformio a gweld y ffordd o fyw y Canadiaid yn wahanol iawn. Wedyn cafon ni cyfle i gyfarfod an billets am y tro cyntaf cyn i ni fynd i chwarae ein gem hoci cyntaf. Roedd hynny'n profiad gwahnol ac newydd. Roedd y tywydd yma'n waeth nag yng Nghymru, sy'n anodd i'w gredu ond nad oedd hynny'n helpu ni ar gyfer ein gem yn hwyrach yn y dydd ar ben y jet lag ar cau "odd" iawn odd rhaid i ni chwarae ar. Fel tim, roedd ni wedi chwarae'n dda iawn, wrth gamu i fyny i'r sialens oedd om blaenau. Cafon cyfle i ganu'r anthem genedlaethol mewn llinell gyda'r canadiaid tuag at y cefnogwyr, ond wrth gwrs fel disgyblio bro morgannwg, ni a wnaeth ganu'n well a reu awyrgylch mwynhais! Aethom nol ar y bws yn drewi ac yn wlyb ond roedd pawb dal mewn hwyliau da yn edrych ymlaen am y peth nesaf. Cyrhaeddom at ty ein billets ac ymlacio ag ymolchi a wedyn mynd i lawr y grisiau am pizza o flaen y teledu. Ar ol hynny, fe ddaeth Eleri a Emma draw i cael hwyl a sbri oherwydd bod canadian nhw wedi mynd i gwaith yn mcdonalds! Cafon cyfle i ddiddori mewn bywyd moethus y canadiaid wrth wylio ffilm ar y telewdu hiwwg 64inch plasma screen a fireplace y size o gymru ww ac y jacuzzi! Chwaraeom yn y play house, ar y guitar/drum hero neu beth bynnag, dance mat, darts, football table, ac y cadeiriau ansefydlog wrth i Bethan eistedd ar y cadair a cwympo syth yn ol i ocr arall yr ystafell a bod yn conust! Yr oedd y gem o dartiau yn un peryglus iawn, wrth i Eleri saethu tuag at yr ochr arall or ystafell a bethan cael dartiau yn y to tra bod Emma a Kristie yn ymarfer ei sgiliau "gwych" ar y drumiau ar guitar ond i ddweud y gwir Leri oedd seren y guitar hero gyda Taylor ein billet yn agos y tu ol iddi, er bod leri'n ymarfer oriau man y bore (4am)! I orffen y dydd cafon cyfle i adeiladu ginger bread house (calangeuaf) am y tro cyntf. Roedd hynny'n profiad anghygoel o hylus ond fattening! Ond i ddweud y gwir, gallwn ddweud bod dim un ohonom mynd i gymrud lan y swydd o adeiladu tai oherwydd bod ein ty ni wedi chwalu ar ol 2 funud o gymrud llun ohono- er hynny ty ni oedd y gorau yn y byd!
Y bore'ma cafon brecwast anhygoel o flasus, wrth i ni gael sgrambled egg, rhuw fath o potato thingys a bacwn efo diod neis a coffee vanilla/cyrup- NEIS IAWN! Heddiw rydym yn edrych ymlaen at fynd ar y tram i fyny mynyddac efallai partio yn y nos. Rwyf yn siwr eich bo chi'n genfigennus iawn! Ond hwyl am y tro
Krisite ac Bethan :D
xxxxx

Gem hoci/Hockey game vs Chilliwack

Helo pawb :)


Tim: Kirsty Hewitson, Beth Heslop, Hannah Canty, Kristie Higgins, Sara Meredith, Martha Holyman, Arianwen Denham, Lowri Phillips, Ffion Perrett, Alex Briscombe, Megan Morris, Emma Parkes, Eleri Phillips Griffiths, Emma Mason.

Ddoe cafon ein gem cyntaf yn erbyn Chilliwack. Er nad oedd y tywydd yn berffaith i'r timoedd (glaw) a'r pitsh bach yn wahanol i'r arfer (turff hir iawn!!) roedd ysbryd y tim yn un positif iawn.
Yn ystod yr hanner cyntaf cafon ein profi yn ein ardal amddiffyn llawer, gyda tua 10 o gorneli fer i Chilliwack!! Gyda cymorth Ari yn gweiddi "GO" a "CMON MERCHED" llwyddon ni i amddiffyn yn arbennig o dda. Er ei tro cyntaf yn y gol oedd hi, roedd Megan Morris yn chwarae'n arbennig o dda yn safio'r tim nifer o weithiau. Diolch Meg :)
Roedd yr ail hanner yn debyg iawn ond yn ffodus iawn roedden wedi llwyddo i cael cornel fer, ac yn cymryd mantais o hyn, blastiodd Kirsty Hewitson y bel i mewn i'r gol! O'r diwedd cafon rhywbeth am ein waith caled! Wooo!
Hoffwn ddiolch i merched Chilliwack am y gem arbennig ac am yr anrhegion bach ar diwedd y gem! Diolch i'r merched, athrawon a Goran am wylio a chefnogi!

'Man of the match': Megan Morris
Sgor terfynnol: 5-1 (Chilliwack)

Hello everyone!

Yesterday we played our first game against Chilliwack. Although the weather was not great, and the pitch was a new experience for us all, every member of the team was up for a good game!
During the first half our defensive skills were significant, as Chilliwack had many short corners and we managed to defend the majority of them, thanks to Ari's help-shouting at us, and Megan Morris in goals. It was Meg's first game as goalie and she played with guts and confidence- the Chilliwack girls were pretty agressive and scary at times! Thanks for being awesome Meg :D
The second half of the game was similar to the first. Due to hard work we managed to get a short corner, where Kirsty Hewitson blasted the ball in to the goal, leaving the Chilliwack keeper stunned!
Every player gave 100% during the game and as Captains, Kirsty, Ari and I are very proud, and cannot wait to play the next game and win!!
We would like to thank the Chilliwack girls for giving us a great game, and all our supporters on the side (teachers, some of the girls and Goran) for keeping spirits high!

Man of the match: Megan Morris
Final score: 5-1 (Chilliwack)



Kirsty Hewitson, Lowri Phillips

Bring on Vanier High!!!!

Captain Tim 2nd XV- Tom Whitmarsh-Knight

Aldergrove 2XV 0-43 Bro Morgannwg 2XV

Ceisiau: Cai Thomas, Huw Morgan, Alex Long(3), Huw Meredith, Tomos Whitmarsh-Knight
Drosgeisiau:Alex Long (4)
Seren y Gem : David Marsh

Llinell Dechrau: 15...., 14. David Marsh, 13.Alex Long, 12.Tomos Whitmarsh-Knight(c), 11.Huw Meredith, 10.Mathew Metcalf, 9. Cai Thomas, 8.Dafydd Williams, 7.Oli Clarke, 6.Naill Crawley, 5. Jacob Phillips, 4. Paddy Crawley, 3.Sion Ford, 2.Rory Coleman, 1. HUW MORGAN!

Roedd y gem yn un dda am y 2XV, roedd yn glawio tryw'r dydd felly nid oedd cyfle i chwarae rugby sexy fel arfer! Ond wnaeth pawb cymrud cam ymlaen oherwydd dim on 14 chwarewyr oedd yn chwarae! Ac o canlyniad roedd pawb wedi codi lefel ei gem nhw!

Wnaeth Fi a THOMAS Williams cael BLUNDER MASSIVE yn y ein araith ar diwedd y gem, ac fydd angen i ni wella am Shawnigan Lake!

Captain Tim XV-Tom Williams

Aldergrove 0-64 Bro Morgannwg
Cesiau-Aled Williams (4) ,Lloyd Thomas,Ben Bryl,Hans Kennedy,Rhodri Walker,
Dyfed Cynan,Tom Williams
Drosgais-Tom Williams (6),Hans Kennedy
Seren y Gem - Hans Kennedy

Wnaethom ni gyrraedd Aldergrove efo'r glaw yn pystillio lawr ond roedd yna ddim yn stopior bechyn dangos eu sgiliau effeithiol ar y cae chwarae.Roeddwm wedi dechrau y gem yn dda iawn trwy gais Aled Williams yn y munud cyntaf.Roedd ein hyder i fyny a chariodd hyn ymalen trwy gydol y gem efo pob chwaraewr yn cael rhan mawr trwy gydol y gem. Y chwaraewyr oedd yn disgleirio i mi oedd yn amlwg Hans Kennedy,Lloyd Thomas, Efan ellis,Ben Bryl,Aled Williams,Rhodri Walker,Rory Robinson ag Illtud Dafydd.

Gobeithio gallwm gymryd hyn ymlaen i'n gem nesaf sef Shawnigan Lake.

15.Aled Williams,14.Dyfed Cynan, 13.Ben Bryl , 12 Lloyd Thomas,11.Steffan Jones, 10.Tom Williams, 9.Efan Ellis, 8.Rhodri Walker,7.Rory Robinson,6.Illtud Dafydd, 5.Callum Scott, 4.Hans Kennedy,3.Jacob Ellis,2.Owen Jennings,1.Seth Wilson..

Diwrnod Cyntaf yn Aldergrove!

Helooo bawb !:) Fi sydd yn gyfrifol am blog y pobol drama heddi, felly dyma ni! Ar ol llawer o ganu ar y bws fe gyrhaeddon ni yn yr ysgol:D fe gawson ni ymarfer cyflym ac yna'n syth ati i berfformio! Er i ni boeni ychydig am wybod geiriau, rwy'n credu ar y cyfan fe wnaethon i berfformio yn dda, mae ymateb ysgol Aldergrove wedi bod yn wych ac yn amlwg mae pawb wedi'i impressio! Fe wnaeth y cor ganu Ysbryd y nos yn gyntaf, yna roedd nwy yn y nen wedi cael ei berfformio gan yr ensemble lleisiol, yna darn o "Blue Remembered Hills" sef drama - ac roedd pawb wedi cofio'r geiriau YAY! :D ac yna From a Distance a oedd yn eithaf impressive wrth ystyried roedd Mr Evans wedi gadael i ni wybod ein bod yn actually canu'r gan tra roeddwn ni ar y llwyfan - does dim byd fel paratoi ey? A gorffen gyda You Raise Me Up - da iawn unawdwyr! Roedd y bechgyn rygbi wedi gwneud yn ffantastic heddi a roedd y tim cyntaf a'r ail dim wedi ennill! Yn anffodus nid wyf yn gwybod y sgor ond fi'n siwr bydd capteiniaid rygbi yn blogio i boastio i bawb:P Roedd y merched hoci wedi chwarae'n anhygoel hefyd! Yn anffodus fe wnaethon ni golli 5 - 1, ond roedden ni wedi ymladd i'r diwedd a sgoriodd Kirsty Hewitson gol ffantastic! Fi'n meddwl mae'n amser i fi fynd nawr oherwydd fi actually yn cwmpo i gysgu! Rydyn ni'n cwrdd am chwarter i ddeuddeg fory sy'n meddwl lie in i bawb - LUSH. Gobeithio bod pawb adre yn iawn! Basen i yn gweud bo ni'n colli chi ond ni'n cael llawer gormod o hwyl!
Becky Gillard
xxx

Helooo everyone !:) I'm responsible for the drama people's blog today so here we go!After lots of singing on the bus we arrived at the school:D we had a quick rehearsal and then went straight to it to perform! Even though we worried a bit about knowing the words, i think on the whole we performed really well, Aldergrove school's reaction has been amazing and everyone is obviously impressed! The choir sang Ysbryd y nos first, and then the vocal ensemble performed Nwy yn y nen, then there was an extract from "Blue Remembered Hills" which is a play - and everyone remembered the words! YAY :D! And then From a Distance which was fairly impressive considering Mr Evans only told us we were performing that whilst we were actually on stage! There's nothing like preperation ey? And we finished with You Raise Me Up - well done soloists! The rugby boys did amazingly well today and both first and second teams won their games! Unfortunately I don't know the score but i'm sure the rugby captains will blog to boast to everyone soon:P The hockey girls also played really well! Unfortunately we lost 5 - 1, but we fought till the end and Kirsty Hewitson scored a fantastic goal! I think it's time for me to go now because I am literally falling asleep! We're meeting at quarter to twelve tomorrow which means a lie in for everybody - LUSH. Hope everyone at home is ok! I would say that we're missing you but we're having way too much fun!
Becky Gillard
xxx

17.10.08

Ail ddiwrnod gan Eleri, Elin, Bethan a Dafydd

Helo! , megan, eleri, bethan, a bethan
Mae Whistler yn oer ond yn bert iawn! Mae'r siopau yn ardderchog ond yn eithaf drud.

Yn gyntaf aethom ni i'r Canolfan Native ble ddysgon ni am bywyd y Squamish a Lil'wak. Roedd yn eithaf diddorol ac wnaethom braechledi!! :)

Yna aethom i'r dref i weld y siopau ac i ceisio wneud y ZipTrek ond nid oeddem wedi oherwydd y tywydd gwael, mae'r tywydd allan fan hyn ddim yn gret.

Mae'r pobl yma'n neis iawn, yn enwedig y pobl sy'n gweithio yn y shopau, yn ein cyfarch pan ydynt yn mynd mewn i'w siopau. Fe wnaethom cyfarfod ag un fenyw o Abertawe yn siarad cymraeg a oedd yn gweithio mewn un o'r siopau.
Neges bach i ddweud bod ni'n cael amser da. Wedi bod i Whistler a Stanley Park a mae e'n anhygoel. Roedd y Native Centre yn ddioddorol iawn. Wedi dysgu llawer am y ddau llwyth. Mae angen i pawb archebu tocynnau i ddod draw. Gweld chi'n fuan...

canada

Hey!!! Mae Canada yn amazing:D Mae y ddinas yn prydferth mae yna lot i neud rydw i wedi blino rydym yn gwybod llawer am dau rydym wedi mynd siopa ac i aquariam CYMRAEG YW IAITH Y DAITH

Y dau dydd cynta yn CANADAA!

Heloo pawb!
Ma canada yn amazing! ma fe mor bert! ma'n rhaid i bawb ddod, seriously - dr jones os ydych chi'n darllen hwn fi'n credu dylen ni neud trip bob tymor :) neu bob pythefnos? Mae Whistler yn hyyyyfryd! Mae'r tywydd bach yn minging ond mae pawb dal wedi cael diwrnod arbennig! Siopa yn faaaab! Ddoe fe aeth pawb i Stanley Park ac fe ethon ni'n dwy i'r AQUARIUM! ac fe ethon ni mewn am hanner pris! Dolphins a morfil! Amazing! Bach yn blentynaidd...ond roedd e mor gyffroes! Wel Mr Beynon, byddech chi'n falch i glywed ein bod ni mewn "Internet Cafe" ond rydyn ni'n cwrdd mewn 20 munud i fynd yn ol ar y bus..sy'n meddwl bod ni'n gadael Whistler :(:(
Mae pawb wedi dod dros y jet-lag nawr ar ol noson llawn o gwsg! Wel heblaw am Arianwen, Alex a Lucy. Roedd Ari wedi gosod ei larwm am 7 o'r gloch y bore...amser Prydeinig, felly ar ol tair awr o gwsg roeddyn nhw wedi dihuno am 11 pm i gael cawod neis ac yn barod i fynd! Nes sylweddoli..haha! Wel ni newydd sylweddoli bod yn rhaid i ni ysgrifennu hwn i gyd mewn Saesneg felly ni'n meddwl mae'n amser i fynd nawr! Ciaaaaoo! Katy Brown + Becky Gillard xx

Hellooooo everyone!
Canada is AMAZING! it's so pretty! Everyone has to come, seriously - dr jones if you're reading this we think we should make a trip every school term :) or every fortnight?! Whistler is goooorgeous! The weather's a bit minging but everyone has still had an amazing day! The shopping is brilliant! Yesterday everyone went to Stanley Park and we went to the AQUARIUM! And got in for half price! Dolphins and Whales! Amazing! A little childish..but it was so exciting! Well Mr Beynon, you'll be pleased to hear we're in an "Internet Cafe" but we're meeting in 20 minues to go home on the bus..which means we're leaving Whistler :(:(
Everyone's over the jet-lag now after a full night of sleep! Well except for Arianwen, Alex and Lucy. Ari set her alarm for 7 o clock in the morning..British time, so after three hours sleep they woke up at 11pm to have a nice shower and were ready to go! Untill they realised..haha! Well we've just realised that we have to write all of this in English (see this entire paragraph) so we think it's time go to now! Ciaaaaooo! Katy Brown + Becky Gillard xx

Whistler

Helo pawb!
rydym ni hefyd yn internet cafe suprise suprise!!....
Maer golygfeydd o gwmpas Whistler yn anhygoel :D a maer siopa hefyd yn wych! Naethon ni ymweld ar native Centre-diddorol iawn. Nath bawb cymryd rhan mewn dawnsio anifeiliad-nath Dadi Beynon neud jobyn dda o fod yn arth! Gwelsom hefyd bwyti or enw KEG!!

Aethon ni i Stanley Park neithiwr, eto golygfeydd fantastic a'r 'Aquarium' yn hwylus iawn. Gwelsom Begula Whales a Racoons er nad oeddent yn y dwr! Mae pawb yn flinedig iawn yma (yn enwedig ari a ali, gan ei fod wedi codi a cael cawod am 11 y nos yn meddwl ei fod yn 7 y bore!!
Rydym yn edrych ymlaen i weddil y trip, ac i chwarae ein gem cynta o hoci fori :)

siarad yn fuan, gweld ishe chi gyd!!
cariad, Sara,Eleri ac Lili
x


Hi everyone
We are also in an internet cafe suprise, suprise!!
The views in Whistler are beautiful and the shopping is also amazing! We visited the Native center this morning which was very interesting. Everyone danced the animal dance and Daddy Beynon's impression of a bear was very acurate! We also saw a restaurant called THE KEG!

We visited Stanley Park yesterday and the views were again spectacular and visited the Aquarium which was fun. We saw Begula Whales and racoons even though they wern't in the water!! Everyone is very tired (especially Ari and Alex as they woke up and had a shower at 11pm thinking it was 7 am!!!)
We're looking forward to the rest of the trip and to play our first game of Hockey tomorrow:)\
Will blog again soon. Missing you all
love Sara, Eleri and Lili
x

16.10.08

Dau dydd cyntaf yn ol MARTHA EMMA A CARYS!!! :)

Helo pawb :)

Rydyn ni'n eistedd mewn Internet Cafe mewn Whistler ar y foment, ac yn flinedig iawn ar ol y siwrne ddoe. Rydyn ni newydd ymwled efo'r Whistler Native Center i ddysgu am dau hen tribe yr ardal, roedd e'n bore diddorol iawn. Mae hi'n eithaf oer ac yn drizzly ar y foment ond mae'r golygfeydd yn anhygoel o brydferth. Cymrodd hi 2 awr a hanner i ni cyrraedd yma yn bws Gorran (gyrrwr Ucaslafaidd ni). Dydyn ni methu gwneud y Zip-treck oherwydd mae'r tywydd yn rhy wael yma felly mae gynnon ni pedair awr i siopa :):) Newyddion anlwcus i rhieni! Mae pawb yn mwynhau ond yn eithaf jet-lagged, gemau a cyngherddau cyntaf yn Aldergrove yfori ac mae pawb yn edrych ymlaen iddyn nhw. Hwyl am nawr... gobeithio fod pawb adref yn iawn ac yn colli ni llawer!!!!

Hwyl oddi wrth Emma Martha a Carys xxxx


Hi guys!
We're sitting in an internet cafe in Whistler Village up in the mountains by the bare ski slopes!! :( no snow. Everyone's pretty tired after yesterday's journey. We've just been to the Whislter Native Centre to learn about the two native tribes of the area it was really interesting. It's quite cold and drizzly at the moment but the views are still incredibly beautiful. It took us 2 hours to arrive up here on the bus, with Gorran (our Ukaslavian bus driver. ledgend) We can't do the zip trek because the weather's too bad which means we have 4 hours of shopping to do (not good news for you parents!) And no bears have been seen yet :( but Daddy Beynon's on the look out for us :) Everyone's enjoying but still a tad jetlagged, our first games and concert tomorrow in Aldergrove and everyone's pretty excited :) Bye for now, hope you're all missing us at home!!!

Love Emma Carys and Martha x.x.x.x

14.10.08

Bon voyage!

Siwrne saff i chi gyd. Joiwch, bihafiwch a blogiwch!
Neu, fel y'n ni'n dweud yn Almaeneg ... Gute Fahrt!
Ddim yn gallu aros!

11.10.08

Mae'r gwaith galed bron wedi gorffen a bydd ein amser cinio ni nol gyda ni cyn bo hir. Rydw i yn edrych ymlaen i Ganada, i gwrdd ar gwrthwynebwyr ac i gael amser da. Rydw i'n gobeithio fy mod i na neb arall yn mynd i ga'l anaf... arall oherwydd mi fydd e'n embaras i ni gyd petai hanner y tim ar y 'touch line' gyda crutches.

Rydw i yn edrych ymlaen i glywed Mr. Beynon yn canu deuawd gyda Miss. Wilson. Rydw i yn cofio nhw'n addo neud unwaith. Amser i rhywun arall dweud rhywbeth fi'n meddwl.

Jacob

9.10.08

Amser i ddechrau BLOGIO!!

I ddechrau arferion da o rhan defnyddio'r blog fel cofnod yn ystod y daith, rwyf am i chi ysgrifennu pwt bach am eich teimladau cyn mynd - e.e. beth ydych chi'n edrych ymlaen i wneud? Does dim angen llawer. Er hyn, cofiwch fod angen iaith o safon (dim text!!) a rhaid nodi eich neges yn ddwyieithog.

Diolch

Mr Beynon

4.10.08

Ychydig o gyhoeddiadau pwysig:


  • Ymarfer Dawnsio Gwerin dydd Sul, 9:30-11am.
  • Ymarfer Cor dydd Sul yma, 11am-1pm - gobeithio fod PAWB yn gallu dod!
  • Rwy' dal yn aros i dderbyn y canlynol wrth rai ohonoch: pasport; ffurflen iechyd (melyn); ffurflen ziptrek; arian noddi; a proffil personol. RHAID I MI GAEL POPETH DYDD LLUN.
  • Cit - bydd yn cit yn barod erbyn diwedd yr wythnos.

28.9.08

Neges y Pennaeth

Dyma syniad gwych! Mae'n gyfle i mi gadw golwg ar hynt a helynt pawb, gan gynnwys yr athrawon! Cofiwch eich bod yn lladmeryddion yr ysgol.

Pob hwyl i chi i gyd, mwynhewch a dewch adre'n ddiogel.

Dylan Jones

26.9.08

Sut i flogio



Byddwn ni'n cael cyfarfod cyn hir er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn cael y cyfle i flogio a chadw mewn cysylltiad gyda'u teuluoedd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth gyda'r rhwyfo.

25.9.08

Croeso i'r Blog!

Croeso i chi i gyd i'r blog hwn sydd ar gyfer taith Ysgol Gyfun Bro Morgannwg i Ganada. Mawr yw'r edrych ymlaen at y daith a bydd y blog yn rhoi cyfle i'r disgyblion gadw mewn cysylltiad gyda Chymru drwy ysgrifennu pytiau am eu hanesion diweddaraf. Bydd lluniau'n cael eu hychwanegu i bawb gael rhannu profiadau'r criw yng Nghanada. Bydd cyfle hefyd i ffrindiau a theuluoedd yng Nghymru aros mewn cysylltiad drwy wasgu "Comment" ar ddiwedd unrhyw neges ac ychwanegu sylw neu neges. Mae disgyblion blwyddyn 9 taith gyfnewid Grünstadt eisoes wedi bod yn blogio a bu'r fenter yn llwyddiant mawr.

Welcome to you all to this blog which has been set up for Ysgol Gyfun Bro Morgannwg's visit to Canada. Everyone is really looking forward to the journey and this blog will offer pupils the opportunity to stay in touch with Wales by posting their latest news. Photos will be uploaded so that everyone can share the Canada experience. Friends and family at home will be able to stay in touch by clicking on "Comment" at the end of any message and add their thoughts. The year 9 Grünstadt exchange pupils have already blogged and the project was a great success.